Laura JaneLEWISTachwedd 24, 2024
Yn dawel, yng nghwmni ei theulu, yng nghartref Nyrsio Sant Tsilio, Llanfairpwll a gynt o Y Wern, Y Felinheli, yn 95 mlwydd oed.
Gwraig addfwyn y diweddar Gwilym Eric Lewis, mam gariadus Marian, Ann a Liz a mam yng nghyfraith Aled, Gareth a'r diweddar Gwil, nain arbennig Kevin, Steven, Tracy, Julie, Ian a Sharon, hen nain hoffus i 12 o wyrion a wyresau a hen hen nain i 1. Chwaer annwyl Beryl, Alwyn, Goronwy a'i diweddar frodyr a chwiorydd.
Angladd cyhoeddus am 11 o'r gloch, ddydd Iau, Rhagfyr 12 yn Eglwys y Santes Fair, Stryd yr Eglwys, Caernarfon ac i ddilyn ym Mynwent Eglwys y Santes Fair, Llanfairisgaer am oddeutu 12 o'r goch.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Dementia UK.
Ymholiadau pellach i Gwilym Jones a'i Fab, Ffordd y De, Caernarfon
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Laura